Gyda’n Gilydd Drod Gymru

Gyda’n gilydd, gallwn ledaenu ein neges ein bod yn uchelgeisiol ac yn gadarnhaol i gymunedau ledled Cymru. Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod Llywodraeth Llafur Cymru’n dychwelyd ym mis Mai.

rwj5arqet4m1fdhwpx0beq

£100m Ychwanegol I Wella Safonau Ysgol

Yn ystod tymor nesaf y Cynulliad bydd Llafur Cymru yn buddsoddi lleiafswm o £100 m mewn cyllid rheng flaen ychwanegol i barhau i godi safonau yn ein hysgolion.

Bydd yr arian ychwanegol hwn yn parhau i helpu i wella ansawdd y dysgu a’r addysgu yn yr ystafell ddosbarth fel bod pob disgybl yn cyrraedd eu llawn botensial. Mae cyfradd cyrhaeddiad ein disgyblion tlotaf yn awr yn codi’n gyflymach nac erioed o’r blaen ac mae’n rhaid i ni barhau gyda’r momentwm hwn.

Cronfa Driniaeth Newydd Ar Gyfer Salwch Sy’n Peryglu Bywyd

Mae meddyginiaethau a thriniaethau newydd yn cael eu darganfod, eu datblygu a’u profi ar sail wythnosol bron, gan gynnig y gobaith o wellhad neu well ansawdd bywyd ar gyfer pobl sydd ag ystod o gyflyrau sy’n bygwth bywyd ac sy’n parhau gydol oes. Gyda dyfodiad cyffuriau newydd fe ddaw’r her o sut i dalu amdanynt – mae llawer o feddyginiaethau newydd yn costio cannoedd o filoedd o bunnoedd y person.

Bydd Llywodraeth Lafur nesaf Cymru yn creu Cronfa Triniaeth Newydd i gefnogi pobl sydd â chyflyrau sy’n bygwth bywyd. Byddai’r gronfa ganolog bwrpasol hon yn galluogi bod y cyffuriau mwyaf datblygedig a’r triniaethau cost uchel ar gyfer canser ac afiechydon eraill sy’n bygwth bywyd ar gael yng Nghymru yn gyntaf.

Gofal Plant Am Ddim Ar Gyfer Rhieni Sy’n Gweithio

Bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn y dyfodol yn darparu 30 awr o ofal plant am ddim i rieni sy’n gweithio, am 48 wythnos o’r flwyddyn.

Hwn yw’r cynnig gofal plant mwyaf uchelgeisiol a chynhwysfawr yn y DU.

30 awr o ofal plant am ddim i rieni sy’n gweithio – a fydd yn cwmpasu nid yn unig 38 wythnos y flwyddyn, ond gwerth 48 wythnos o ofal ar gyfer plant 3 a 4 oed.

Bydd hyn yn ychwanegu at y cynllun Dechrau’n Deg sydd eisoes yn ei le gennym yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Mae hwn yn fuddsoddiad nid yn unig mewn teuluoedd sy’n gweithio, sef yn nyfodol ein plant – ond yn ein heconomi hefyd. Rydym yn gwybod pa mor anodd yw hi yn enwedig i gymaint o famau sy’n gweithio i fynd yn ôl i’r gwaith a bydd yr ymrwymiad heddiw yn gwneud bywyd yn llawer haws.

100,000 O Brentisiaethau Ar Gyfer Pob Oedran

Dros y tymor diwethaf yn y Cynulliad mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi sefydlu record gref o greu prentisiaethau o ansawdd da. Mae dros 100,000 o brentisiaethau wedi cael eu dechrau ar draws Cymru, gan gefnogi ein busnesau i ehangu ac i’n  heconomi dyfu. Mae ein prentisiaethau wedi bod yn llwyddiannus hefyd, gyda chyfraddau llwyddiant yn gyson dros 80%, sy’n sylweddol uwch na’r cyfraddau llwyddiant a welwyd yn Lloegr.

Byddwn yn parhau â’r gwaith da hwn ac yn y tymor nesaf byddwn yn creu 100,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel, ar gyfer pob oedran, er mwyn sicrhau bod ein heconomi yn cael mynediad at y sgiliau lefel uwch sydd eu hangen. Rydym am weld mwy o’n prentisiaid yn dysgu yn y gweithle oherwydd dyma yw’r lle gorau lle y gallant ennill y sgiliau, yr wybodaeth a’r cymhwysedd gorau i ddatblygu’n gyflymach. Byddwn yn datblygu’r ymagwedd ‘ennill a dysgu’, sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau o fewn yr amgylchedd gwaith.

Dwbl Y Terfyn Cyfalaf Ar Gyfer Gofal Preswyl

Bydd y Llywodraeth Lafur nesaf yn dyblu’r terfyn cyfalaf y bydd pobl hŷn yn cael ei gadw ar werthiant eu cartref, pe bai angen iddynt fynd i mewn i ofal. Byddwn yn codi’r terfyn cyfalaf i £50,000.

Toriadau Treth Ar Gyfer Pob Busnes Bach Yng Nghymru

Busnesau bach yw asgwrn cefn ein heconomi, a’n cymunedau a’r stryd fawr hefyd. Ar draws Cymru gyfan, mae entrepreneuriaid a busnesau bach yn helpu i adeiladu economi gref, gan annog twf, a chreu swyddi.